Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 4:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Daeth gair Samuel i holl Israel. Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel: a gwersyllasant gerllaw Ebeneser: a'r Philistiaid a wersyllasant yn Affec.

2. A'r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel: a'r gad a ymgyfarfu; a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid: a hwy a laddasant o'r fyddin yn y maes ynghylch pedair mil o wŷr.

3. A phan ddaeth y bobl i'r gwersyll, henuriaid Israel a ddywedasant, Paham y trawodd yr Arglwydd ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr Arglwydd, a deled i'n mysg ni; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion.

4. Felly y bobl a anfonodd i Seilo, ac a ddygasant oddi yno arch cyfamod Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn aros rhwng y ceriwbiaid: ac yno yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, gydag arch cyfamod Duw.

5. A phan ddaeth arch cyfamod yr Arglwydd i'r gwersyll, holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr, fel y datseiniodd y ddaear.

6. A phan glybu'r Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuant mai arch yr Arglwydd a ddaethai i'r gwersyll.

7. A'r Philistiaid a ofnasant: oherwydd hwy a ddywedasant, Daeth Duw i'r gwersyll. Dywedasant hefyd, Gwae ni! canys ni bu'r fath beth o flaen hyn.

8. Gwae ni! pwy a'n gwared ni o law y duwiau nerthol hyn? Dyma y duwiau a drawsant yr Eifftiaid â'r holl blâu yn yr anialwch.

9. Ymgryfhewch, a byddwch wŷr, O Philistiaid; rhag i chwi wasanaethu'r Hebreaid, fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch wŷr, ac ymleddwch.

10. A'r Philistiaid a ymladdasant; a lladdwyd Israel, a ffodd pawb i'w babell: a bu lladdfa fawr iawn; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 4