Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Philistiad oedd yn ymladd yn erbyn Israel: a gwŷr Israel a ffoesant rhag y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa.

2. A'r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul a'i feibion; a'r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul.

3. A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a'r gwŷr bwâu a'i cawsant ef; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion.

4. Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a thrywana fi ag ef; rhag i'r rhai dienwaededig yma ddyfod a'm trywanu i, a'm gwaradwyddo. Ond ni fynnai ei yswain ef; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr: am hynny Saul a gymerodd gleddyf, ac a syrthiodd arno.

5. A phan welodd ei yswain farw o Saul, yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gydag ef.

6. Felly y bu farw Saul, a'i dri mab, a'i yswain, a'i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghyd.

7. A phan welodd gwŷr Israel, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r dyffryn, a'r rhai oedd o'r tu hwnt i'r Iorddonen, ffoi o wŷr Israel, a marw Saul a'i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoesant; a'r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt.

8. A'r bore, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a'i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa.

9. A hwy a dorasant ei ben ef, ac a ddiosgasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ymysg y bobl.

10. A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a'i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan.

11. A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul;

12. Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, a gerddasant ar hyd y nos, ac a ddygasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, oddi ar fur Bethsan, ac a ddaethant i Jabes, ac a'u llosgasant hwynt yno.

13. A hwy a gymerasant eu hesgyrn hwynt, ac a'u claddasant dan bren yn Jabes, ac ymprydiasant saith niwrnod.