Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 30:3-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Felly y daeth Dafydd a'i wŷr i'r ddinas; ac wele hi wedi ei llosgi â thân: eu gwragedd hwynt hefyd, a'u meibion, a'u merched, a gaethgludasid.

4. Yna dyrchafodd Dafydd a'r bobl oedd gydag ef eu llef, ac a wylasant, hyd nad oedd nerth ynddynt i wylo.

5. Dwy wraig Dafydd hefyd a gaethgludasid, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail, gwraig Nabal y Carmeliad.

6. A bu gyfyng iawn ar Dafydd; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef; oherwydd chwerwasai enaid yr holl bobl, bob un am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgysurodd yn yr Arglwydd ei Dduw.

7. A Dafydd a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad, mab Ahimelech, Dwg i mi, atolwg, yr effod, Ac Abiathar a ddug yr effod at Dafydd.

8. A Dafydd a ymofynnodd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, A erlidiaf fi ar ôl y dorf hon? a oddiweddaf fi hi? Ac efe a ddywedodd wrtho, Erlid: canys gan oddiweddyd y goddiweddi, a chan waredu y gwaredi.

9. Felly Dafydd a aeth, efe a'r chwe channwr oedd gydag ef, a hwy a ddaethant hyd afon Besor, lle yr arhosodd y rhai a adawyd yn ôl.

10. A Dafydd a erlidiodd, efe a phedwar cant o wŷr; canys dau cannwr a arosasant yn ôl, y rhai a flinasent fel na allent fyned dros afon Besor.

11. A hwy a gawsant Eifftddyn yn y maes, ac a'i dygasant ef at Dafydd; ac a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd; a hwy a'i diodasant ef â dwfr.

12. A hwy a roddasant iddo ddarn o ffigys, a dau swp o resin: ac efe a fwytaodd, a'i ysbryd a ddychwelodd ato: canys ni fwytasai fara, ac nid yfasai ddwfr dridiau a thair nos.

13. A Dafydd a ddywedodd wrtho, Gwas i bwy wyt ti? ac o ba le y daethost ti? Ac efe a ddywedodd, Llanc o'r Aifft ydwyf fi, gwas i ŵr o Amalec; a'm meistr a'm gadawodd, oblegid i mi glefychu er ys tridiau bellach.

14. Nyni a ruthrasom ar du deau y Cerethiaid, a'r hyn sydd eiddo Jwda, a thu deau Caleb: Siclag hefyd a losgasom ni â thân.

15. A Dafydd a ddywedodd wrtho, A fedri di fyned â mi i waered at y dorf hon? Yntau a ddywedodd, Twng wrthyf fi i Dduw, na leddi fi, ac na roddi fi yn llaw fy meistr, a mi a af â thi i waered at y dorf hon.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 30