Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 30:21-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A Dafydd a ddaeth at y ddau cannwr a flinasent, fel na allent ganlyn Dafydd, ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor: a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd, ac i gyfarfod â'r bobl oedd gydag ef. A phan nesaodd Dafydd at y bobl, efe a gyfarchodd well iddynt.

22. Yna yr atebodd pob gŵr drygionus, ac eiddo y fall, o'r gwŷr a aethai gyda Dafydd, ac a ddywedasant, Oherwydd nad aethant hwy gyda ni, ni roddwn ni iddynt hwy ddim o'r anrhaith a achubasom ni; eithr i bob un ei wraig, a'i feibion: dygant hwynt ymaith, ac ymadawant.

23. Yna y dywedodd Dafydd, Ni wnewch chwi felly, fy mrodyr, am yr hyn a roddodd yr Arglwydd i ni, yr hwn a'n cadwodd ni, ac a roddodd y dorf a ddaethai i'n herbyn, yn ein llaw ni.

24. Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn? canys un fath fydd rhan yr hwn a elo i waered i ryfel, a rhan yr hwn a arhoso gyda'r dodrefn: hwy a gydrannant.

25. Ac o'r dydd hwnnw allan, efe a osododd hyn yn gyfraith ac yn farnedigaeth yn Israel, hyd y dydd hwn.

26. A phan ddaeth Dafydd i Siclag, efe a anfonodd o'r anrhaith i henuriaid Jwda, sef i'w gyfeillion, gan ddywedyd, Wele i chwi anrheg, o anrhaith gelynion yr Arglwydd;

27. Sef i'r rhai oedd yn Bethel, ac i'r rhai oedd yn Ramoth tua'r deau, ac i'r rhai oedd yn Jattir,

28. Ac i'r rhai oedd yn Aroer, ac i'r rhai oedd yn Siffmoth, ac i'r rhai oedd yn Estemoa,

29. Ac i'r rhai oedd yn Rachal, ac i'r rhai oedd yn ninasoedd y Jerahmeeliaid, ac i'r rhai oedd yn ninasoedd y Ceneaid,

30. Ac i'r rhai oedd yn Horma, ac i'r rhai oedd yn Chorasan, ac i'r rhai oedd yn Athac,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 30