Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 30:11-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A hwy a gawsant Eifftddyn yn y maes, ac a'i dygasant ef at Dafydd; ac a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd; a hwy a'i diodasant ef â dwfr.

12. A hwy a roddasant iddo ddarn o ffigys, a dau swp o resin: ac efe a fwytaodd, a'i ysbryd a ddychwelodd ato: canys ni fwytasai fara, ac nid yfasai ddwfr dridiau a thair nos.

13. A Dafydd a ddywedodd wrtho, Gwas i bwy wyt ti? ac o ba le y daethost ti? Ac efe a ddywedodd, Llanc o'r Aifft ydwyf fi, gwas i ŵr o Amalec; a'm meistr a'm gadawodd, oblegid i mi glefychu er ys tridiau bellach.

14. Nyni a ruthrasom ar du deau y Cerethiaid, a'r hyn sydd eiddo Jwda, a thu deau Caleb: Siclag hefyd a losgasom ni â thân.

15. A Dafydd a ddywedodd wrtho, A fedri di fyned â mi i waered at y dorf hon? Yntau a ddywedodd, Twng wrthyf fi i Dduw, na leddi fi, ac na roddi fi yn llaw fy meistr, a mi a af â thi i waered at y dorf hon.

16. Ac efe a'i dug ef i waered: ac wele hwynt wedi ymwasgaru ar hyd wyneb yr holl dir, yn bwyta, ac yn yfed, ac yn dawnsio; oherwydd yr holl ysbail fawr a ddygasent hwy o wlad y Philistiaid, ac o wlad Jwda.

17. A Dafydd a'u trawodd hwynt o'r cyfnos hyd brynhawn drannoeth: ac ni ddihangodd un ohonynt, oddieithr pedwar cant o wŷr ieuanc, y rhai a farchogasant ar gamelod, ac a ffoesant.

18. A Dafydd a achubodd yr hyn oll a ddygasai yr Amaleciaid: Dafydd hefyd a waredodd ei ddwy wraig.

19. Ac nid oedd yn eisiau iddynt, na bychan na mawr, na mab na merch, na'r anrhaith, na dim ag a ddygasent hwy ganddynt: hyn oll a ddug Dafydd adref.

20. Dug Dafydd hefyd yr holl ddefaid, a'r gwartheg; y rhai a yrasant o flaen yr anifeiliaid eraill, ac a ddywedasant, Dyma anrhaith Dafydd.

21. A Dafydd a ddaeth at y ddau cannwr a flinasent, fel na allent ganlyn Dafydd, ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor: a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd, ac i gyfarfod â'r bobl oedd gydag ef. A phan nesaodd Dafydd at y bobl, efe a gyfarchodd well iddynt.

22. Yna yr atebodd pob gŵr drygionus, ac eiddo y fall, o'r gwŷr a aethai gyda Dafydd, ac a ddywedasant, Oherwydd nad aethant hwy gyda ni, ni roddwn ni iddynt hwy ddim o'r anrhaith a achubasom ni; eithr i bob un ei wraig, a'i feibion: dygant hwynt ymaith, ac ymadawant.

23. Yna y dywedodd Dafydd, Ni wnewch chwi felly, fy mrodyr, am yr hyn a roddodd yr Arglwydd i ni, yr hwn a'n cadwodd ni, ac a roddodd y dorf a ddaethai i'n herbyn, yn ein llaw ni.

24. Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn? canys un fath fydd rhan yr hwn a elo i waered i ryfel, a rhan yr hwn a arhoso gyda'r dodrefn: hwy a gydrannant.

25. Ac o'r dydd hwnnw allan, efe a osododd hyn yn gyfraith ac yn farnedigaeth yn Israel, hyd y dydd hwn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 30