Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 3:16-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ac Eli a alwodd ar Samuel, ac a ddywedodd, Samuel fy mab. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

17. Ac efe a ddywedodd, Beth yw y gair a lefarodd yr Arglwydd wrthyt? na chela, atolwg, oddi wrthyf: fel hyn y gwnelo Duw i ti, ac fel hyn y chwanego, os celi oddi wrthyf ddim o'r holl bethau a lefarodd efe wrthyt.

18. A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, Yr Arglwydd yw efe: gwnaed a fyddo da yn ei olwg.

19. A chynyddodd Samuel; a'r Arglwydd oedd gydag ef, ac ni adawodd i un o'i eiriau ef syrthio i'r ddaear.

20. A gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba, mai proffwyd ffyddlon yr Arglwydd oedd Samuel.

21. A'r Arglwydd a ymddangosodd drachefn yn Seilo: canys yr Arglwydd a ymeglurhaodd i Samuel yn Seilo trwy air yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 3