Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 29:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Dychwel yn awr, gan hynny, a dos mewn heddwch, ac na anfodlona dywysogion y Philistiaid.

8. A dywedodd Dafydd wrth Achis, Ond beth a wneuthum i? a pheth a gefaist ti yn dy was, o'r dydd y deuthum o'th flaen di hyd y dydd hwn, fel na ddelwn i ymladd yn erbyn gelynion fy arglwydd frenin?

9. Ac Achis a atebodd ac a ddywedodd wrth Dafydd, Gwn mai da wyt ti yn fy ngolwg i, megis angel Duw: ond tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Ni ddaw efe i fyny gyda ni i'r rhyfel.

10. Am hynny yn awr cyfod yn fore, a gweision dy feistr y rhai a ddaethant gyda thi: a phan gyfodoch yn fore, a phan oleuo i chwi ewch ymaith.

11. Felly Dafydd a gyfododd, efe a'i wŷr, i fyned ymaith y bore, i ddychwelyd i dir y Philistiaid. A'r Philistiaid a aethant i fyny i Jesreel.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 29