Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 29:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y Philistiaid a gynullasant eu holl fyddinoedd i Affec: a'r Israeliaid oedd yn gwersyllu wrth ffynnon sydd yn Jesreel.

2. A thywysogion y Philistiaid oedd yn tramwy yn gannoedd, ac yn filoedd: ond Dafydd a'i wŷr oedd yn cerdded yn olaf gydag Achis.

3. Yna tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Beth a wna yr Hebreaid hyn yma? Ac Achis a ddywedodd wrth dywysogion y Philistiaid, Onid dyma Dafydd, gwas Saul brenin Israel, yr hwn a fu gyda mi y dyddiau hyn, neu y blynyddoedd hyn, ac ni chefais ddim bai ynddo ef, er y dydd y syrthiodd efe ataf hyd y dydd hwn?

4. A thywysogion y Philistiaid a lidiasant wrtho; a thywysogion y Philistiaid a ddywedasant wrtho, Gwna i'r gŵr hwn ddychwelyd i'w le a osodaist iddo, ac na ddeled i waered gyda ni i'r rhyfel; rhag ei fod yn wrthwynebwr i ni yn y rhyfel: canys â pha beth y rhyngai hwn fodd i'w feistr? onid â phennau y gwŷr hyn?

5. Onid hwn yw Dafydd, am yr hwn y canasant wrth ei gilydd yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 29