Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 28:6-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A phan ymgynghorodd Saul â'r Arglwydd, nid atebodd yr Arglwydd iddo, na thrwy freuddwydion, na thrwy Urim, na thrwy broffwydi.

7. Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen ysbryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ymofynnwyf â hi. A'i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor.

8. A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad eraill; ac efe a aeth, a dau ŵr gydag ef, a hwy a ddaethant at y wraig liw nos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, atolwg, i mi trwy ysbryd dewiniaeth, a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt.

9. A'r wraig a ddywedodd wrtho ef, Wele, ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion a'r dewiniaid o'r wlad: paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magl yn erbyn fy einioes i, i beri i mi farw?

10. A Saul a dyngodd wrthi hi i'r Arglwydd, gan ddywedyd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni ddigwydd i ti niwed am y peth hyn.

11. Yna y dywedodd y wraig, Pwy a ddygaf fi i fyny atat ti? Ac efe a ddywedodd, Dwg i mi Samuel i fyny.

12. A'r wraig a ganfu Samuel, ac a lefodd â llef uchel: a'r wraig a lefarodd wrth Saul, gan ddywedyd, Paham y twyllaist fi? canys ti yw Saul.

13. A'r brenin a ddywedodd wrthi hi, Nac ofna: canys beth a welaist ti? A'r wraig a ddywedodd wrth Saul, Duwiau a welais yn dyrchafu o'r ddaear.

14. Yntau a ddywedodd wrthi, Pa ddull sydd arno ef? A hi a ddywedodd, Gŵr hen sydd yn dyfod i fyny, a hwnnw yn gwisgo mantell. A gwybu Saul mai Samuel oedd efe; ac efe a ostyngodd ei wyneb i lawr, ac a ymgrymodd.

15. A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Paham yr aflonyddaist arnaf, gan beri i mi ddyfod i fyny? A dywedodd Saul, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: canys y mae y Philistiaid yn rhyfela yn fy erbyn i, a Duw a giliodd oddi wrthyf fi, ac nid yw yn fy ateb mwyach, na thrwy law proffwydi, na thrwy freuddwydion: am hynny y gelwais arnat ti, i hysbysu i mi beth a wnawn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 28