Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 28:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Philistiaid yn y dyddiau hynny a gynullasant eu byddinoedd yn llu, i ymladd yn erbyn Israel. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Gwybydd di yn hysbys, yr ei di gyda mi allan i'r gwersylloedd, ti a'th wŷr.

2. A dywedodd Dafydd wrth Achis, Yn ddiau ti a gei wybod beth a all dy was ei wneuthur. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Yn wir minnau a'th osodaf di yn geidwad ar fy mhen i byth.

3. A Samuel a fuasai farw; a holl Israel a alarasent amdano ef, ac a'i claddasent yn Rama, sef yn ei ddinas ei hun. A Saul a yrasai ymaith y swynyddion a'r dewiniaid o'r wlad.

4. A'r Philistiaid a ymgynullasant ac a ddaethant ac a wersyllasant yn Sunem: a Saul a gasglodd holl Israel ynghyd; a hwy a wersyllasant yn Gilboa.

5. A phan welodd Saul wersyll y Philistiaid, efe a ofnodd, a'i galon a ddychrynodd yn ddirfawr.

6. A phan ymgynghorodd Saul â'r Arglwydd, nid atebodd yr Arglwydd iddo, na thrwy freuddwydion, na thrwy Urim, na thrwy broffwydi.

7. Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen ysbryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ymofynnwyf â hi. A'i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor.

8. A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad eraill; ac efe a aeth, a dau ŵr gydag ef, a hwy a ddaethant at y wraig liw nos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, atolwg, i mi trwy ysbryd dewiniaeth, a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt.

9. A'r wraig a ddywedodd wrtho ef, Wele, ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion a'r dewiniaid o'r wlad: paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magl yn erbyn fy einioes i, i beri i mi farw?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 28