Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 27:5-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A Dafydd a ddywedodd wrth Achis, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg di, rhodder i mi le yn un o'r maestrefi, fel y trigwyf yno: canys paham yr erys dy was di yn ninas y brenin gyda thi?

6. Yna Achis a roddodd iddo ef y dydd hwnnw Siclag; am hynny y mae Siclag yn eiddo brenhinoedd Jwda hyd y dydd hwn.

7. A rhifedi y dyddiau yr arhosodd Dafydd yng ngwlad y Philistiaid, oedd flwyddyn a phedwar mis.

8. A Dafydd a'i wŷr a aethant i fyny, ac a ruthrasant ar y Gesuriaid, a'r Gesriaid, a'r Amaleciaid: canys hwynt-hwy gynt oedd yn preswylio yn y wlad, ffordd yr elych i Sur, ie, hyd wlad yr Aifft.

9. A Dafydd a drawodd y wlad; ac ni adawodd yn fyw ŵr na gwraig; ac a ddug y defaid, a'r gwartheg, a'r asynnod, a'r camelod, a'r gwisgoedd, ac a ddychwelodd ac a ddaeth at Achis.

10. Ac Achis a ddywedodd, I ba le y rhuthrasoch chwi heddiw? A dywedodd Dafydd, Yn erbyn tu deau Jwda, ac yn erbyn tu deau y Jerahmeeliaid, ac yn erbyn tu deau y Ceneaid.

11. Ac ni adawsai Dafydd yn fyw ŵr na gwraig, i ddwyn chwedlau i Gath; gan ddywedyd, Rhag mynegi ohonynt i'n herbyn, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnaeth Dafydd, ac felly y bydd ei arfer ef yr holl ddyddiau yr arhoso efe yng ngwlad y Philistiaid.

12. Ac Achis a gredodd Dafydd, gan ddywedyd, Efe a'i gwnaeth ei hun yn ffiaidd gan ei bobl ei hun Israel; am hynny y bydd efe yn was i mi yn dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 27