Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 27:11-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ac ni adawsai Dafydd yn fyw ŵr na gwraig, i ddwyn chwedlau i Gath; gan ddywedyd, Rhag mynegi ohonynt i'n herbyn, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnaeth Dafydd, ac felly y bydd ei arfer ef yr holl ddyddiau yr arhoso efe yng ngwlad y Philistiaid.

12. Ac Achis a gredodd Dafydd, gan ddywedyd, Efe a'i gwnaeth ei hun yn ffiaidd gan ei bobl ei hun Israel; am hynny y bydd efe yn was i mi yn dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 27