Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 27:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Dafydd a ddywedodd yn ei galon, Yn awr difethir fi ryw ddydd trwy law Saul: nid oes dim well i mi na dianc i dir y Philistiaid; fel yr anobeithio Saul ddyfod o hyd i mi, ac na'm ceisio mwy yn holl derfynau Israel. Felly y dihangaf o'i law ef.

2. A Dafydd a gyfododd, ac a dramwyodd, efe a'r chwe channwr oedd gydag ef, at Achis mab Maoch, brenin Gath.

3. A Dafydd a arhosodd gydag Achis yn Gath, efe a'i wŷr, pob un gyda'i deulu; Dafydd a'i ddwy wraig, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal, y Garmeles.

4. A mynegwyd i Saul, ffoi o Dafydd i Gath: ac ni chwanegodd efe ei geisio ef mwy.

5. A Dafydd a ddywedodd wrth Achis, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg di, rhodder i mi le yn un o'r maestrefi, fel y trigwyf yno: canys paham yr erys dy was di yn ninas y brenin gyda thi?

6. Yna Achis a roddodd iddo ef y dydd hwnnw Siclag; am hynny y mae Siclag yn eiddo brenhinoedd Jwda hyd y dydd hwn.

7. A rhifedi y dyddiau yr arhosodd Dafydd yng ngwlad y Philistiaid, oedd flwyddyn a phedwar mis.

8. A Dafydd a'i wŷr a aethant i fyny, ac a ruthrasant ar y Gesuriaid, a'r Gesriaid, a'r Amaleciaid: canys hwynt-hwy gynt oedd yn preswylio yn y wlad, ffordd yr elych i Sur, ie, hyd wlad yr Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 27