Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 25:20-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ac a hi yn marchogaeth ar asyn, ac yn dyfod i waered ar hyd ystlys y mynydd; yna, wele Dafydd a'i wŷr yn dyfod i waered i'w herbyn; a hi a gyfarfu â hwynt.

21. A dywedasai Dafydd, Diau gadw ohonof fi yn ofer yr hyn oll oedd gan hwn yn yr anialwch, fel na bu dim yn eisiau o'r hyn oll oedd ganddo ef: canys efe a dalodd i mi ddrwg dros dda.

22. Felly y gwnelo Duw i elynion Dafydd, ac ychwaneg, os gadawaf o'r hyn oll sydd ganddo ef, erbyn goleuni y bore, un gwryw.

23. A phan welodd Abigail Dafydd, hi a frysiodd ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn, ac a syrthiodd gerbron Dafydd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd hyd lawr,

24. Ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ddywedodd, Arnaf fi, fy arglwydd, arnaf fi bydded yr anwiredd; a llefared dy wasanaethferch, atolwg, wrthyt, a gwrando eiriau dy lawforwyn.

25. Atolwg, na osoded fy arglwydd ei galon yn erbyn y gŵr Belial hwn, sef Nabal: canys fel y mae ei enw ef, felly y mae yntau; Nabal yw ei enw ef, ac ynfydrwydd sydd gydag ef: a minnau dy wasanaethferch, ni welais weision fy arglwydd, y rhai a anfonaist.

26. Ac yn awr, fy arglwydd, fel y mae yr Arglwydd yn fyw, ac mai byw dy enaid di, gan i'r Arglwydd dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â'th law dy hun; yn awr bydded dy elynion di, a'r sawl a geisiant niwed i'm harglwydd, megis Nabal.

27. Ac yn awr yr anrheg yma, yr hon a ddug dy wasanaethferch i'm harglwydd, rhodder hi i'r llanciau sydd yn canlyn fy arglwydd.

28. A maddau, atolwg, gamwedd dy wasanaethferch: canys yr Arglwydd gan wneuthur a wna i'm harglwydd dŷ sicr; oherwydd fy arglwydd sydd yn ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd, a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau.

29. Er cyfodi o ddyn i'th erlid di, ac i geisio dy enaid; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda'r Arglwydd dy Dduw; ac enaid dy elynion a chwyrn deifi efe, fel o ganol ceudeb y ffon dafl.

30. A phan wnelo yr Arglwydd i'm harglwydd yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe o ddaioni amdanat, a phan y'th osodo di yn flaenor ar Israel;

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 25