Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 25:2-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac yr oedd gŵr ym Maon, a'i gyfoeth yn Carmel; a'r gŵr oedd fawr iawn, ac iddo ef yr oedd tair mil o ddefaid, a mil o eifr: ac yr oedd efe yn cneifio ei ddefaid yn Carmel.

3. Ac enw y gŵr oedd Nabal; ac enw ei wraig Abigail: a'r wraig oedd yn dda ei deall, ac yn deg ei gwedd: a'r gŵr oedd galed, a drwg ei weithredoedd; a Chalebiad oedd efe.

4. A chlybu Dafydd yn yr anialwch, fod Nabal yn cneifio ei ddefaid.

5. A Dafydd a anfonodd ddeg o lanciau; a Dafydd a ddywedodd wrth y llanciau, Cerddwch i fyny i Carmel, ac ewch at Nabal, a chyferchwch well iddo yn fy enw i.

6. Dywedwch fel hyn hefyd wrtho ef sydd yn byw mewn llwyddiant, Caffech di heddwch, a'th dŷ heddwch, a'r hyn oll sydd eiddot ti heddwch.

7. Ac yn awr clywais fod rhai yn cneifio i ti: yn awr y bugeiliaid sydd gennyt a fuant gyda ni, ni wnaethom sarhad arnynt hwy, ac ni bu ddim yn eisiau iddynt, yr holl ddyddiau y buant hwy yn Carmel.

8. Gofyn i'th lanciau, a hwy a fynegant i ti: gan hynny caed y llanciau hyn ffafr yn dy olwg di; canys ar ddiwrnod da y daethom ni; dyro, atolwg, yr hyn a ddelo i'th law, i'th weision, ac i'th fab Dafydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 25