Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 24:4-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel.

5. Ac wedi hyn calon Dafydd a'i trawodd ef, oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul.

6. Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur y peth hyn i'm meistr, eneiniog yr Arglwydd, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid eneiniog yr Arglwydd yw efe.

7. Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr â'r geiriau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fyny o'r ogof, ac a aeth i ffordd.

8. Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o'r ogof; ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenin. A phan edrychodd Saul o'i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua'r ddaear, ac a ymgrymodd.

9. A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Paham y gwrandewi eiriau dynion, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti?

10. Wele, dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i'r Arglwydd dy roddi di yn fy llaw i heddiw yn yr ogof: a dywedwyd wrthyf am dy ladd di; ond fy enaid a'th arbedodd di: a dywedais, Nid estynnaf fy llaw yn erbyn fy meistr; canys eneiniog yr Arglwydd yw efe.

11. Fy nhad hefyd, gwêl, ie gwêl gwr dy fantell yn fy llaw i: canys pan dorrais ymaith gwr dy fantell di, heb dy ladd; gwybydd a gwêl nad oes yn fy llaw i ddrygioni na chamwedd, ac na phechais i'th erbyn: eto yr wyt ti yn hela fy einioes i, i'w dala hi.

12. Barned yr Arglwydd rhyngof fi a thithau, a dialed yr Arglwydd fi arnat ti: ond ni bydd fy llaw i arnat ti.

13. Megis y dywed yr hen ddihareb, Oddi wrth y rhai anwir y daw anwiredd: ond ni bydd fy llaw i arnat ti.

14. Ar ôl pwy y daeth brenin Israel allan? ar ôl pwy yr ydwyt ti yn erlid? ar ôl ci marw, ar ôl chwannen.

15. Am hynny bydded yr Arglwydd yn farnwr, a barned rhyngof fi a thi: edryched hefyd, a dadleued fy nadl, ac achubed fi o'th law di.

16. A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, Ai dy lef di yw hon, fy mab Dafydd? A Saul a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.

17. Efe a ddywedodd hefyd wrth Dafydd, Cyfiawnach wyt ti na myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minnau a delais i ti ddrwg.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 24