13. Megis y dywed yr hen ddihareb, Oddi wrth y rhai anwir y daw anwiredd: ond ni bydd fy llaw i arnat ti.
14. Ar ôl pwy y daeth brenin Israel allan? ar ôl pwy yr ydwyt ti yn erlid? ar ôl ci marw, ar ôl chwannen.
15. Am hynny bydded yr Arglwydd yn farnwr, a barned rhyngof fi a thi: edryched hefyd, a dadleued fy nadl, ac achubed fi o'th law di.
16. A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, Ai dy lef di yw hon, fy mab Dafydd? A Saul a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.
17. Efe a ddywedodd hefyd wrth Dafydd, Cyfiawnach wyt ti na myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minnau a delais i ti ddrwg.
18. A thi a ddangosaist heddiw wneuthur ohonot â mi ddaioni: oherwydd rhoddodd yr Arglwydd fi yn dy law di, ac ni'm lleddaist.
19. Oblegid os caffai ŵr ei elyn, a ollyngai efe ef mewn ffordd dda? am hynny yr Arglwydd a dalo i ti ddaioni, am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn.