Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 23:15-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. A gwelodd Dafydd fod Saul wedi myned allan i geisio ei einioes ef: a Dafydd oedd yn anialwch Siff, mewn coed.

16. A Jonathan mab Saul a gyfododd, ac a aeth at Dafydd i'r coed; ac a gryfhaodd ei law ef yn Nuw.

17. Dywedodd hefyd wrtho ef, Nac ofna: canys llaw Saul fy nhad ni'th gaiff di; a thi a deyrnesi ar Israel, a minnau a fyddaf yn nesaf atat ti: a Saul fy nhad sydd yn gwybod hyn hefyd.

18. A hwy ill dau a wnaethant gyfamod gerbron yr Arglwydd. A Dafydd a arhosodd yn y coed; a Jonathan a aeth i'w dŷ ei hun.

19. Yna y daeth y Siffiaid i fyny at Saul i Gibea, gan ddywedyd, Onid yw Dafydd yn ymguddio gyda ni mewn amddiffynfeydd yn y coed, ym mryn Hachila, yr hwn sydd o'r tu deau i'r diffeithwch?

20. Ac yn awr, O frenin, tyred i waered yn ôl holl ddymuniad dy galon; a bydded arnom ni ei roddi ef yn llaw y brenin.

21. A dywedodd Saul, Bendigedig fyddoch chwi gan yr Arglwydd: canys tosturiasoch wrthyf.

22. Ewch, atolwg, paratowch; eto mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch am ei gyniweirfa ef, lle y mae efe yn tramwy, a phwy a'i gwelodd ef yno; canys dywedwyd i mi ei fod ef yn gyfrwys iawn.

23. Edrychwch gan hynny, a mynnwch wybod yr holl lochesau y mae efe yn ymguddio ynddynt, a dychwelwch ataf fi â sicrwydd, fel yr elwyf gyda chwi; ac os bydd efe yn y wlad, mi a chwiliaf amdano ef trwy holl filoedd Jwda.

24. A hwy a gyfodasant, ac a aethant i Siff o flaen Saul: ond Dafydd a'i wŷr oedd yn anialwch Maon, yn y rhos o'r tu deau i'r diffeithwch.

25. Saul hefyd a'i wŷr a aeth i'w geisio ef. A mynegwyd i Dafydd: am hynny efe a ddaeth i waered i graig, ac a arhosodd yn anialwch Maon. A phan glybu Saul hynny, efe a erlidiodd ar ôl Dafydd yn anialwch Maon.

26. A Saul a aeth o'r naill du i'r mynydd, a Dafydd a'i wŷr o'r tu arall i'r mynydd; ac yr oedd Dafydd yn brysio i fyned ymaith rhag ofn Saul; canys Saul a'i wŷr a amgylchynasant Dafydd a'i wŷr, i'w dala hwynt.

27. Ond cennad a ddaeth at Saul, gan ddywedyd, Brysia, a thyred: canys y Philistiaid a ymdaenasant ar hyd y wlad.

28. Am hynny y dychwelodd Saul o erlid ar ôl Dafydd; ac efe a aeth yn erbyn y Philistiaid: oherwydd hynny y galwasant y fan honno Sela Hamma-lecoth.

29. A Dafydd a aeth i fyny oddi yno, ac a arhosodd yn amddiffynfeydd En-gedi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 23