1. Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Wele y Philistiaid yn ymladd yn erbyn Ceila; ac y maent hwy yn anrheithio yr ysguboriau.
2. Am hynny y gofynnodd Dafydd i'r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi a tharo'r Philistiaid hyn? A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd, Dos, a tharo'r Philistiaid, ac achub Ceila.
3. A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele ni yn ofnus yma yn Jwda: pa faint mwy os awn i Ceila, yn erbyn byddinoedd y Philistiaid?
4. Yna Dafydd eilwaith a ymgynghorodd â'r Arglwydd. A'r Arglwydd a'i hatebodd ef, ac a ddywedodd, Cyfod, dos i waered i Ceila; canys myfi a roddaf y Philistiaid yn dy law di.
5. A Dafydd a'i wŷr a aethant i Ceila, ac a ymladdodd â'r Philistiaid: ac a ddug eu gwartheg hwynt, ac a'u trawodd hwynt â lladdfa fawr. Felly y gwaredodd Dafydd drigolion Ceila.
6. A bu, pan ffodd Abiathar mab Ahimelech at Dafydd i Ceila, ddwyn ohono ef effod yn ei law.
7. A mynegwyd i Saul ddyfod Dafydd i Ceila. A dywedodd Saul, Duw a'i rhoddodd ef yn fy llaw i: canys caewyd arno ef pan ddaeth i ddinas â phyrth ac â barrau iddi.
8. A Saul a alwodd yr holl bobl ynghyd i ryfel, i fyned i waered i Ceila, i warchae ar Dafydd ac ar ei wŷr.
9. A gwybu Dafydd fod Saul yn bwriadu drwg i'w erbyn ef: ac efe a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad, Dwg yr effod.
10. Yna y dywedodd Dafydd, O Arglwydd Dduw Israel, gan glywed y clybu dy was, fod Saul yn ceisio dyfod i Ceila, i ddistrywio y ddinas er fy mwyn i.
11. A ddyry arglwyddi Ceila fi yn ei law ef? a ddaw Saul i waered, megis y clybu dy was? O Arglwydd Dduw Israel, mynega, atolwg, i'th was. A'r Arglwydd a ddywedodd, Efe a ddaw i waered.
12. Yna y dywedodd Dafydd, A ddyry arglwyddi Ceila fyfi a'm gwŷr yn llaw Saul? A'r Arglwydd a ddywedodd, Rhoddant.
13. Yna y cyfododd Dafydd a'i wŷr, y rhai oedd ynghylch chwe chant, ac a aethant o Ceila, ac a rodiasant lle y gallent. A mynegwyd i Saul, fod Dafydd wedi dianc o Ceila; ac efe a beidiodd â myned allan.
14. A Dafydd a arhosodd yn yr anialwch mewn amddiffynfeydd, ac a arhodd mewn mynydd, yn anialwch Siff: a Saul a'i ceisiodd ef bob dydd: ond ni roddodd Duw ef yn ei law ef.
15. A gwelodd Dafydd fod Saul wedi myned allan i geisio ei einioes ef: a Dafydd oedd yn anialwch Siff, mewn coed.
16. A Jonathan mab Saul a gyfododd, ac a aeth at Dafydd i'r coed; ac a gryfhaodd ei law ef yn Nuw.
17. Dywedodd hefyd wrtho ef, Nac ofna: canys llaw Saul fy nhad ni'th gaiff di; a thi a deyrnesi ar Israel, a minnau a fyddaf yn nesaf atat ti: a Saul fy nhad sydd yn gwybod hyn hefyd.
18. A hwy ill dau a wnaethant gyfamod gerbron yr Arglwydd. A Dafydd a arhosodd yn y coed; a Jonathan a aeth i'w dŷ ei hun.
19. Yna y daeth y Siffiaid i fyny at Saul i Gibea, gan ddywedyd, Onid yw Dafydd yn ymguddio gyda ni mewn amddiffynfeydd yn y coed, ym mryn Hachila, yr hwn sydd o'r tu deau i'r diffeithwch?