Ymgynullodd hefyd ato ef bob gŵr helbulus, a phob gŵr a oedd mewn dyled, a phob gŵr cystuddiedig o feddwl; ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy: ac yr oedd gydag ef ynghylch pedwar cant o wŷr.