Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y daeth Dafydd i Nob at Ahimelech yr offeiriad. Ac Ahimelech a ddychrynodd wrth gyfarfod â Dafydd; ac a ddywedodd wrtho, Paham yr ydwyt ti yn unig, ac heb neb gyda thi?

2. A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech yr offeiriad, Y brenin a orchmynnodd i mi beth, ac a ddywedodd wrthyf, Na chaed neb wybod dim o'r peth am yr hwn y'th anfonais, ac y gorchmynnais i ti: a'r gweision a gyfarwyddais i i'r lle a'r lle.

3. Ac yn awr beth sydd dan dy law? dod i mi bum torth yn fy llaw, neu y peth sydd i'w gael.

4. A'r offeiriad a atebodd Dafydd, ac a ddywedodd, Nid oes fara cyffredin dan fy llaw i; eithr y mae bara cysegredig: os y llanciau a ymgadwasant o'r lleiaf oddi wrth wragedd.

5. A Dafydd a atebodd yr offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, Diau atal gwragedd oddi wrthym ni er ys dau ddydd neu dri, er pan gychwynnais i; llestri y llanciau hefyd ydynt sanctaidd, a'r bara sydd megis cyffredin, ie, petai wedi ei gysegru heddiw yn y llestr.

6. Felly yr offeiriad a roddodd iddo ef y bara sanctaidd: canys nid oedd yno fara, ond y bara gosod, yr hwn a dynasid ymaith oddi gerbron yr Arglwydd, i osod bara brwd yn y dydd y tynnid ef ymaith.

7. Ac yr oedd yno y diwrnod hwnnw un o weision Saul yn aros gerbron yr Arglwydd, a'i enw Doeg, Edomiad, y pennaf o'r bugeiliaid oedd gan Saul.

8. A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech, Onid oes yma dan dy law di waywffon, neu gleddyf? canys ni ddygais fy nghleddyf na'm harfau chwaith i'm llaw, oherwydd bod gorchymyn y brenin ar ffrwst.

9. A dywedodd yr offeiriad, Cleddyf Goleiath y Philistiad, yr hwn a leddaist ti yn nyffryn Ela; wele ef wedi ei oblygu mewn brethyn o'r tu ôl i'r effod: o chymeri hwnnw i ti, cymer; canys nid oes yma yr un arall ond hwnnw. A Dafydd a ddywedodd, Nid oes o fath hwnnw; dyro ef i mi.

10. Dafydd hefyd a gyfododd, ac a ffodd y dydd hwnnw rhag ofn Saul, ac a aeth at Achis brenin Gath.

11. A gweision Achis a ddywedasant wrtho ef, Onid hwn yw Dafydd brenin y wlad? onid i hwn y canasant yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?

12. A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon, ac a ofnodd yn ddirfawr rhag Achis brenin Gath.

13. Ac efe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt; ac a gymerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt, ac a gripiodd ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf.

14. Yna y dywedodd Achis wrth ei weision, Wele, gwelwch y gŵr yn gwallgofi; paham y dygasoch ef ataf fi?

15. Ai eisiau ynfydion sydd arnaf fi, pan ddygasoch hwn i ynfydu o'm blaen i? a gaiff hwn ddyfod i'm tŷ i?