Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 20:30-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Yna y llidiodd dicter Saul yn erbyn Jonathan; ac efe a ddywedodd wrtho, Ti fab y gyndyn wrthnysig, oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti, ac yn gywilydd i noethder dy fam?

31. Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaear, ni'th sicrheir di na'th deyrnas: yn awr gan hynny anfon, a chyrch ef ataf; canys marw a gaiff efe.

32. A Jonathan a atebodd Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Paham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe?

33. A Saul a ergydiodd waywffon ato ef, i'w daro ef. Wrth hyn y gwybu Jonathan fod ei dad ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd.

34. Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid dicllon, ac ni fwytaodd fwyd yr ail ddydd o'r mis: canys drwg oedd ganddo dros Dafydd, oherwydd i'w dad ei waradwyddo ef.

35. A'r bore yr aeth Jonathan i'r maes erbyn yr amser a osodasai efe i Dafydd, a bachgen bychan gydag ef.

36. Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen, Rhed, cais yn awr y saethau yr ydwyf fi yn eu saethu. A'r bachgen a redodd: yntau a saethodd saeth y tu hwnt iddo ef.

37. A phan ddaeth y bachgen hyd y fan yr oedd y saeth a saethasai Jonathan, y llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, ac a ddywedodd, Onid yw y saeth o'r tu hwnt i ti?

38. A llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, Cyflyma, brysia, na saf. A bachgen Jonathan a gasglodd y saethau, ac a ddaeth at ei feistr.

39. A'r bachgen ni wyddai ddim: yn unig Jonathan a Dafydd a wyddent y peth.

40. A Jonathan a roddodd ei offer at ei fachgen, ac a ddywedodd wrtho, Dos, dwg y rhai hyn i'r ddinas.

41. A'r bachgen a aeth ymaith; a Dafydd a gyfododd oddi wrth y deau, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd dair gwaith. A hwy a gusanasant bob un ei gilydd, ac a wylasant y naill wrth y llall; a Dafydd a ragorodd.

42. A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dos mewn heddwch: yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd fyddo rhyngof fi a thi, a rhwng fy had i a'th had dithau, safed hynny yn dragywydd. Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith: a Jonathan a aeth i'r ddinas.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 20