Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 20:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Dafydd a ffodd o Naioth yn Rama: ac a ddaeth, ac a ddywedodd gerbron Jonathan, Beth a wneuthum i? beth yw fy anwiredd? a pheth yw fy mhechod o flaen dy dad di, gan ei fod efe yn ceisio fy einioes i?

2. Ac efe a ddywedodd wrtho, Na ato Duw; ni byddi farw: wele, ni wna fy nhad ddim, na mawr na bychan, heb ei fynegi i mi: paham gan hynny y celai fy nhad y peth hyn oddi wrthyf fi? Nid felly y mae.

3. A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddywedodd, Dy dad a ŵyr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di; am hynny y dywed, Na chaed Jonathan wybod hyn, rhag ei dristáu ef: cyn wired â bod yr Arglwydd yn fyw, a'th enaid dithau yn fyw, nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau.

4. Yna y dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dywed beth yw dy ewyllys, a mi a'i cwblhaf i ti.

5. A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Wele, y dydd cyntaf o'r mis yw yfory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda'r brenin i fwyta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y trydydd dydd.

6. Os dy dad a ymofyn yn fanwl amdanaf; yna dywed, Dafydd gan ofyn a ofynnodd gennad gennyf fi, i redeg i Bethlehem, ei ddinas ei hun: canys aberth blynyddol sydd yno i'r holl genedl.

7. Os fel hyn y dywed efe, Da; heddwch fydd i'th was: ond os gan ddigio y digia efe, gwybydd fod ei fryd ef ar ddrwg.

8. Gwna gan hynny drugaredd â'th was; canys i gyfamod yr Arglwydd y dygaist dy was gyda thi: ac od oes anwiredd ynof fi, lladd di fi; canys i ba beth y dygi fi at dy dad?

9. A dywedodd Jonathan, Na ato Duw hynny i ti: canys, os gan wybod y cawn wybod fod malais wedi ei baratoi gan fy nhad i ddyfod i'th erbyn, onis mynegwn i ti?

10. A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Pwy a fynega i mi? neu beth os dy dad a'th etyb yn arw?

11. A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Tyred, ac awn i'r maes. A hwy a aethant ill dau i'r maes.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 20