Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 17:43-56 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

43. A'r Philistiad a ddywedodd wrth Dafydd, Ai ci ydwyf fi, gan dy fod yn dyfod ataf fi â ffyn? A'r Philistiad a regodd Dafydd trwy ei dduwiau ef.

44. Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth Dafydd, Tyred ataf fi, a rhoddaf dy gnawd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y maes.

45. Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, ac â gwaywffon, ac â tharian; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw Arglwydd y lluoedd, Duw byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti.

46. Y dydd hwn y dyry yr Arglwydd dydi yn fy llaw i, a mi a'th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod Duw yn Israel.

47. A'r holl gynulleidfa hon a gânt wybod, nad â chleddyf, nac â gwaywffon y gwared yr Arglwydd: canys eiddo yr Arglwydd yw y rhyfel, ac efe a'ch rhydd chwi yn ein llaw ni.

48. A phan gyfododd y Philistiad, a dyfod a nesáu i gyfarfod Dafydd; yna y brysiodd Dafydd, ac a redodd tua'r fyddin i gyfarfod â'r Philistiad.

49. A Dafydd a estynnodd ei law i'r god, ac a gymerth oddi yno garreg, ac a daflodd, ac a drawodd y Philistiad yn ei dalcen; a'r garreg a soddodd yn ei dalcen ef: ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb.

50. Felly y gorthrechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl ac â charreg, ac a drawodd y Philistiad, ac a'i lladdodd ef; er nad oedd cleddyf yn llaw Dafydd.

51. Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymerth ei gleddyf ef, ac a'i tynnodd o'r wain, ac a'i lladdodd ef, ac a dorrodd ei ben ef ag ef. A phan welodd y Philistiaid farw o'u cawr hwynt hwy a ffoesant.

52. A gwŷr Israel a Jwda a gyfodasant, ac a floeddiasant; ac a erlidiasant y Philistiaid, hyd y ffordd y delych i'r dyffryn, a hyd byrth Ecron. A'r Philistiaid a syrthiasant yn archolledig ar hyd ffordd Saaraim, sef hyd Gath, a hyd Ecron.

53. A meibion Israel a ddychwelasant o ymlid ar ôl y Philistiaid, ac a anrheithiasant eu gwersylloedd hwynt.

54. A Dafydd a gymerodd ben y Philistiad, ac a'i dug i Jerwsalem; a'i arfau ef a osododd efe yn ei babell.

55. A phan welodd Saul Dafydd yn myned i gyfarfod â'r Philistiad, efe a ddywedodd wrth Abner, tywysog y filwriaeth, Mab i bwy yw y llanc hwn, Abner? Ac Abner a ddywedodd, Fel y mae yn fyw dy enaid, O frenin, nis gwn i.

56. A dywedodd y brenin, Ymofyn mab i bwy yw y gŵr ieuanc hwn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 17