Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 17:27-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. A'r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn, gan ddywedyd. Felly y gwneir i'r gŵr a'i lladdo ef.

28. Ac Eliab, ei frawd hynaf, a'i clybu pan oedd efe yn ymddiddan â'r gwŷr: a dicter Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd; ac efe a ddywedodd, Paham y daethost i waered yma? a chyda phwy y gadewaist yr ychydig ddefaid hynny yn yr anialwch? Myfi a adwaen dy falchder di, a drygioni dy galon: canys i weled y rhyfel y daethost ti i waered.

29. A dywedodd Dafydd, Beth a wneuthum i yn awr? Onid oes achos?

30. Ac efe a droes oddi wrtho ef at un arall, ac a ddywedodd yr un modd: a'r bobl a'i hatebasant ef air yng ngair fel o'r blaen.

31. A phan glybuwyd y geiriau a lefarodd Dafydd, yna y mynegwyd hwynt gerbron Saul: ac efe a anfonodd amdano ef.

32. A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Na lwfrhaed calon neb o'i herwydd ef: dy was di a â ac a ymladd â'r Philistiad hwn.

33. A dywedodd Saul wrth Dafydd, Ni elli di fyned yn erbyn y Philistiad hwn, i ymladd ag ef: canys llanc ydwyt ti, ac yntau sydd yn rhyfelwr o'i febyd.

34. A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Bugail oedd dy was di ar ddefaid ei dad; a daeth llew ac arth, ac a gymerasant oen o'r praidd.

35. A mi a euthum ar ei ôl ef, ac a'i trewais ef, ac a'i hachubais o'i safn ef: a phan gyfododd efe i'm herbyn i, mi a ymeflais yn ei farf ef, ac a'i trewais, ac a'i lleddais ef.

36. Felly dy was di a laddodd y llew, a'r arth: a'r Philistiad dienwaededig hwn fydd megis un ohonynt, gan iddo amherchi byddinoedd y Duw byw.

37. Dywedodd Dafydd hefyd, Yr Arglwydd, yr hwn a'm hachubodd i o grafanc y llew, ac o balf yr arth, efe a'm hachub i o law y Philistiad hwn. A dywedodd Saul wrth Dafydd, Dos, a'r Arglwydd fyddo gyda thi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 17