Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 17:2-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant yn nyffryn Ela, ac a drefnasant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid.

3. A'r Philistiaid oedd yn sefyll ar fynydd o'r naill du, ac Israel yn sefyll ar fynydd o'r tu arall: a dyffryn oedd rhyngddynt.

4. A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid, a'i enw Goleiath, o Gath: ei uchder oedd chwe chufydd a rhychwant.

5. A helm o bres ar ei ben, a llurig emog a wisgai: a phwys y llurig oedd bum mil o siclau pres.

6. A botasau pres oedd am ei draed ef, a tharian bres rhwng ei ysgwyddau.

7. A phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd; a blaen ei waywffon ef oedd chwe chan sicl o haearn: ac un yn dwyn tarian oedd yn myned o'i flaen ef.

8. Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt, I ba beth y deuwch i drefnu eich byddinoedd? Onid ydwyf fi Philistiad, a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi ŵr, i ddyfod i waered ataf fi.

9. Os gall efe ymladd â mi, a'm lladd i; yna y byddwn ni yn weision i chwi: ond os myfi a'i gorchfygaf ef, ac a'i lladdaf ef; yna y byddwch chwi yn weision i ni, ac y gwasanaethwch ni.

10. A'r Philistiad a ddywedodd, Myfi a waradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn: moeswch ataf fi ŵr, fel yr ymladdom ynghyd.

11. Pan glybu Saul a holl Israel y geiriau hynny gan y Philistiad, yna y digalonasant, ac yr ofnasant yn ddirfawr.

12. A'r Dafydd hwn oedd fab i Effratëwr o Bethlehem Jwda, a'i enw Jesse; ac iddo ef yr oedd wyth o feibion: a'r gŵr yn nyddiau Saul a âi yn hynafgwr ymysg gwŷr.

13. A thri mab hynaf Jesse a aethant ac a ddilynasant ar ôl Saul i'r rhyfel: ac enw ei dri mab ef, y rhai a aethant i'r rhyfel, oedd Eliab y cyntaf-anedig, ac Abinadab yr ail, a Samma y trydydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 17