Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 16:6-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A phan ddaethant, efe a edrychodd ar Eliab; ac a ddywedodd, Diau fod eneiniog yr Arglwydd ger ei fron ef.

7. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel, Nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchder ei gorffolaeth ef: canys gwrthodais ef. Oherwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad; ond yr Arglwydd a edrych ar y galon.

8. Yna Jesse a alwodd Abinadab, ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith.

9. Yna y gwnaeth Jesse i Samma ddyfod. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith.

10. Yna y parodd Jesse i'w saith mab ddyfod gerbron Samuel. A Samuel a ddywedodd wrth Jesse, Ni ddewisodd yr Arglwydd y rhai hyn.

11. Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse, Ai dyma dy holl blant? Yntau a ddywedodd, Yr ieuangaf eto sydd yn ôl; ac wele, mae efe yn bugeilio'r defaid. A dywedodd Samuel wrth Jesse, Danfon, a chyrch ef: canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma.

12. Ac efe a anfonodd, ac a'i cyrchodd ef. Ac efe oedd writgoch, a theg yr olwg, a hardd o wedd. A dywedodd yr Arglwydd, Cyfod, eneinia ef: canys dyma efe.

13. Yna y cymerth Samuel gorn yr olew, ac a'i heneiniodd ef yng nghanol ei frodyr. A daeth ysbryd yr Arglwydd ar Dafydd, o'r dydd hwnnw allan. Yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Rama.

14. Ond ysbryd yr Arglwydd a giliodd oddi wrth Saul; ac ysbryd drwg oddi wrth yr Arglwydd a'i blinodd ef.

15. A gweision Saul a ddywedasant wrtho ef, Wele yn awr, drwg ysbryd oddi wrth Dduw sydd yn dy flino di.

16. Dyweded, atolwg, ein meistr ni wrth dy weision sydd ger dy fron, am iddynt geisio gŵr yn medru canu telyn: a bydd, pan ddelo drwg ysbryd oddi wrth Dduw arnat ti, yna iddo ef ganu â'i law; a da fydd i ti.

17. A dywedodd Saul wrth ei weision, Edrychwch yn awr i mi am ŵr yn medru canu yn dda, a dygwch ef ataf fi.

18. Ac un o'r llanciau a atebodd, ac a ddywedodd, Wele, gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad, yn medru canu, ac yn rymus o nerth, ac yn rhyfelwr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd; a'r Arglwydd sydd gydag ef.

19. Yna yr anfonodd Saul genhadau at Jesse, ac a ddywedodd, Anfon ataf fi Dafydd dy fab, yr hwn sydd gyda'r praidd.

20. A Jesse a gymerth asyn llwythog o fara, a chostrelaid o win, a myn gafr, ac a'u hanfonodd gyda Dafydd ei fab at Saul.

21. A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd ger ei fron ef: yntau a'i hoffodd ef yn fawr; ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef.

22. A Saul a anfonodd at Jesse, gan ddywedyd, Arhosed Dafydd, atolwg, ger fy mron i: canys efe a gafodd ffafr yn fy ngolwg.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 16