Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 14:27-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Ond Jonathan ni chlywsai pan dyngedasai ei dad ef y bobl: am hynny efe a estynnodd flaen y wialen oedd yn ei law, ac a'i gwlychodd yn nil y mêl, ac a drodd ei law at ei enau; a'i lygaid a oleuasant.

28. Yna un o'r bobl a atebodd, ac a ddywedodd, Gan dynghedu y tynghedodd dy dad y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd heddiw. A'r bobl oedd luddedig.

29. Yna y dywedodd Jonathan, Fy nhad a flinodd y wlad. Gwelwch yn awr fel y goleuodd fy llygaid i, oherwydd i mi archwaethu ychydig o'r mêl hwn:

30. Pa faint mwy, pe bwytasai y bobl yn ddiwarafun heddiw o anrhaith eu gelynion, yr hon a gawsant hwy? oni buasai yn awr fwy y lladdfa ymysg y Philistiaid?

31. A hwy a drawsant y Philistiaid y dydd hwnnw o Michmas hyd Ajalon: a'r bobl oedd ddiffygiol iawn.

32. A'r bobl a ruthrodd at yr anrhaith, ac a gymerasant ddefaid, a gwartheg, a lloi, ac a'u lladdasant ar y ddaear: a'r bobl a'u bwytaodd gyda'r gwaed.

33. Yna y mynegasant hwy i Saul, gan ddywedyd, Wele, y bobl sydd yn pechu yn erbyn yr Arglwydd, gan fwyta ynghyd â'r gwaed. Ac efe a ddywedodd, Troseddasoch: treiglwch ataf fi heddiw faen mawr.

34. Dywedodd Saul hefyd, Ymwasgerwch ymysg y bobl, a dywedwch wrthynt, Dygwch ataf fi bob un ei ych, a phob un ei lwdn dafad, a lleddwch hwynt yma, a bwytewch; ac na phechwch yn erbyn yr Arglwydd, gan fwyta ynghyd â'r gwaed. A'r bobl oll a ddygasant bob un ei ych yn ei law y noswaith honno, ac a'u lladdasant yno.

35. A Saul a adeiladodd allor i'r Arglwydd. Hon oedd yr allor gyntaf a adeiladodd efe i'r Arglwydd.

36. A dywedodd Saul, Awn i waered ar ôl y Philistiaid liw nos, ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo y bore, ac na adawn un ohonynt. Hwythau a ddywedasant, Gwna yr hyn oll fyddo da yn dy olwg. Yna y dywedodd yr offeiriad, Nesawn yma at Dduw.

37. Ac ymofynnodd Saul â Duw, A af fi i waered ar ôl y Philistiaid? a roddi di hwynt yn llaw Israel? Ond nid atebodd efe ef y dydd hwnnw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 14