14. Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di: yr Arglwydd a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun: yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl; oherwydd na chedwaist ti yr hyn a orchmynnodd yr Arglwydd i ti.
15. A Samuel a gyfododd ac a aeth i fyny o Gilgal i Gibea Benjamin: a chyfrifodd Saul y bobl a gafwyd gydag ef, ynghylch chwe chant o wŷr.
16. A Saul a Jonathan ei fab, a'r bobl a gafwyd gyda hwynt, oedd yn aros yn Gibea Benjamin: a'r Philistiaid a wersyllasant ym Michmas.
17. A daeth allan o wersyll y Philistiaid anrheithwyr, yn dair byddin: un fyddin a drodd tua ffordd Offra, tua gwlad Sual;
18. A'r fyddin arall a drodd tua ffordd Beth-horon: a'r drydedd fyddin a drodd tua ffordd y terfyn sydd yn edrych tua dyffryn Seboim, tua'r anialwch.