1. Saul a deyrnasodd un flwyddyn; ac wedi iddo deyrnasu ddwy flynedd ar Israel,
2. Saul a ddewisodd iddo dair mil o Israel; dwy fil oedd gyda Saul ym Michmas ac ym mynydd Bethel, a mil oedd gyda Jonathan yn Gibea Benjamin: a'r bobl eraill a anfonodd efe bawb i'w babell ei hun.
3. A Jonathan a drawodd sefyllfa y Philistiaid, yr hon oedd yn Geba: a chlybu y Philistiaid hynny. A Saul a ganodd mewn utgorn trwy'r holl dir, gan ddywedyd, Clywed yr Hebreaid.
4. A holl Israel a glywsant ddywedyd daro o Saul sefyllfa y Philistiaid, a bod Israel yn ffiaidd gan y Philistiaid: a'r bobl a ymgasglodd ar ôl Saul i Gilgal.
5. A'r Philistiaid a ymgynullasant i ymladd ag Israel, deng mil ar hugain o gerbydau, a chwe mil o wŷr meirch, a phobl eraill cyn amled â'r tywod sydd ar fin y môr. A hwy a ddaethant i fyny, ac a wersyllasant ym Michmas, o du y dwyrain i Beth-afen.
6. Pan welodd gwŷr Israel fod yn gyfyng arnynt, (canys gwasgasid ar y bobl,) yna y bobl a ymguddiasant mewn ogofeydd, ac mewn drysni, ac mewn creigiau, ac mewn tyrau, ac mewn pydewau.
7. A rhai o'r Hebreaid a aethant dros yr Iorddonen, i dir Gad a Gilead: a Saul oedd eto yn Gilgal, a'r holl bobl a aethant ar ei ôl ef dan grynu.
8. Ac efe a arhosodd saith niwrnod, hyd yr amser gosodedig a nodasai Samuel. Ond ni ddaeth Samuel i Gilgal; a'r bobl a ymwasgarodd oddi wrtho ef.
9. A Saul a ddywedodd, Dygwch ataf fi boethoffrwm, ac offrymau hedd. Ac efe a offrymodd y poethoffrwm.
10. Ac wedi darfod iddo offrymu'r poethoffrwm, wele, Samuel a ddaeth: a Saul a aeth allan i'w gyfarfod ef, ac i gyfarch gwell iddo.
11. A dywedodd Samuel, Beth a wnaethost ti? A Saul a ddywedodd, Oherwydd gweled ohonof i'r bobl ymwasgaru oddi wrthyf, ac na ddaethost tithau o fewn y dyddiau gosodedig, ac i'r Philistiaid ymgasglu i Michmas;
12. Am hynny y dywedais, Y Philistiaid yn awr a ddeuant i waered ataf fi i Gilgal, ac ni weddïais gerbron yr Arglwydd: am hynny yr anturiais i, ac yr offrymais boethoffrwm.