Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 11:5-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ac wele Saul yn dyfod ar ôl y gwartheg o'r maes. A dywedodd Saul, Beth sydd yn peri i'r bobl wylo? Yna yr adroddasant iddo eiriau gwŷr Jabes.

6. Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Saul, pan glybu efe y geiriau hynny; a'i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr.

7. Ac efe a gymerth bâr o ychen, ac a'u drylliodd, ac a'u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau; gan ddywedyd, Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir i'w wartheg ef. Ac ofn yr Arglwydd a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allan yn unfryd.

8. A phan gyfrifodd efe hwynt yn Besec, meibion Israel oedd dri chan mil, a gwŷr Jwda yn ddeng mil ar hugain.

9. A hwy a ddywedasant wrth y cenhadau a ddaethai, Fel hyn y dywedwch wrth wŷr Jabes Gilead; Yfory, erbyn gwresogi yr haul, bydd i chwi ymwared. A'r cenhadau a ddaethant ac a fynegasant hynny i wŷr Jabes; a hwythau a lawenychasant.

10. Am hynny gwŷr Jabes a ddywedasant, Yfory y deuwn allan atoch chwi; ac y gwnewch i ni yr hyn oll a weloch yn dda.

11. A bu drannoeth i Saul osod y bobl yn dair byddin; a hwy a ddaethant i ganol y gwersyll yn yr wyliadwriaeth fore, ac a laddasant yr Ammoniaid nes gwresogi o'r dydd: a'r gweddillion a wasgarwyd, fel na thrigodd ohonynt ddau ynghyd.

12. A dywedodd y bobl wrth Samuel, Pwy yw yr hwn a ddywedodd, A deyrnasa Saul arnom ni? moeswch y gwŷr hynny, fel y rhoddom hwynt i farwolaeth.

13. A Saul a ddywedodd, Ni roddir neb i farwolaeth heddiw: canys heddiw, y gwnaeth yr Arglwydd ymwared yn Israel.

14. Yna Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Deuwch, fel yr elom i Gilgal, ac yr adnewyddom y frenhiniaeth yno.

15. A'r holl bobl a aethant i Gilgal, ac yno y gwnaethant Saul yn frenin, gerbron yr Arglwydd yn Gilgal: a hwy a aberthasant yno ebyrth hedd gerbron yr Arglwydd. A Saul a lawenychodd yno, a holl wŷr Israel, yn ddirfawr.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 11