Yna Nahas yr Ammoniad a ddaeth i fyny, ac a wersyllodd yn erbyn Jabes Gilead: a holl wŷr Jabes a ddywedasant wrth Nahas, Gwna gyfamod â ni, ac ni a'th wasanaethwn di.