Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 10:5-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ar ôl hynny y deui i fryn Duw, yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid: a phan ddelych yno i'r ddinas, ti a gyfarfyddi â thyrfa o broffwydi yn disgyn o'r uchelfa, ac o'u blaen hwynt nabl, a thympan, a phibell, a thelyn; a hwythau yn proffwydo.

6. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaw arnat ti; a thi a broffwydi gyda hwynt, ac a droir yn ŵr arall.

7. A phan ddelo yr argoelion hyn i ti, gwna fel y byddo yr achos: canys Duw sydd gyda thi.

8. A dos i waered o'm blaen i Gilgal: ac wele, mi a ddeuaf i waered atat ti, i offrymu offrymau poeth, ac i aberthu ebyrth hedd: aros amdanaf saith niwrnod, hyd oni ddelwyf atat, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych.

9. A phan drodd efe ei gefn i fyned oddi wrth Samuel, Duw a roddodd iddo galon arall: a'r holl argoelion hynny a ddaethant y dydd hwnnw i ben.

10. A phan ddaethant yno i'r bryn, wele fintai o broffwydi yn ei gyfarfod ef: ac ysbryd Duw a ddaeth arno yntau, ac efe a broffwydodd yn eu mysg hwynt.

11. A phawb a'r a'i hadwaenai ef o'r blaen a edrychasant; ac wele efe gyda'r proffwydi yn proffwydo. Yna y bobl a ddywedasant bawb wrth ei gilydd, Beth yw hyn a ddaeth i fab Cis? A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?

12. Ac un oddi yno a atebodd, ac a ddywedodd, Eto pwy yw eu tad hwy? Am hynny yr aeth yn ddihareb, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?

13. Ac wedi darfod iddo broffwydo, efe a ddaeth i'r uchelfa.

14. Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef, ac wrth ei lanc ef, I ba le yr aethoch? Ac efe a ddywedodd, I geisio'r asynnod: a phan welsom nas ceid, ni a ddaethom at Samuel.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 10