Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 1:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-Soffim, o fynydd Effraim, a'i enw Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, Effratëwr:

2. A dwy wraig oedd iddo; enw y naill oedd Hanna, ac enw y llall Peninna: ac i Peninna yr ydoedd plant, ond i Hanna nid oedd plant.

3. A'r gŵr hwn a âi i fyny o'i ddinas bob blwyddyn i addoli, ac i aberthu i Arglwydd y lluoedd, yn Seilo; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, oedd offeiriaid i'r Arglwydd yno.

4. Bu hefyd, y diwrnod yr aberthodd Elcana, roddi ohono ef i Peninna ei wraig, ac i'w meibion a'i merched oll, rannau.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 1