17. Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a'u brodyr; Salum ydoedd bennaf;
18. A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi oedd borthorion.
19. Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a'r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a'u tadau hwynt ar lu yr Arglwydd, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn.
20. Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o'r blaen: a'r Arglwydd ydoedd gydag ef.
21. Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod.
22. Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthorion wrth y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt‐hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd.
23. Felly hwynt a'u meibion a safent wrth byrth tŷ yr Arglwydd, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau.
24. Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau.