14. Ac o'r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari,
15. Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab Asaff;
16. Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid.
17. Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a'u brodyr; Salum ydoedd bennaf;
18. A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi oedd borthorion.
19. Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a'r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a'u tadau hwynt ar lu yr Arglwydd, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn.
20. Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o'r blaen: a'r Arglwydd ydoedd gydag ef.
21. Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod.
22. Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthorion wrth y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt‐hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd.
23. Felly hwynt a'u meibion a safent wrth byrth tŷ yr Arglwydd, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau.
24. Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau.
25. A'u brodyr, y rhai oedd yn eu trefydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o amser i amser, gyda hwynt.
26. Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ Dduw.
27. Ac o amgylch tŷ Dduw y lletyent hwy, canys arnynt hwy yr oedd yr oruchwyliaeth, ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore.
28. Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth, ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan.
29. A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y cysegr, ac ar y peilliaid, a'r gwin, a'r olew, a'r thus, a'r aroglau peraidd.
30. Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o'r aroglau peraidd.
31. A Matitheia, un o'r Lefiaid, yr hwn oedd gyntaf‐anedig Salum y Corahiad, ydoedd mewn swydd ar waith y radell.
32. Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i'w ddarparu bob Saboth.
33. A dyma y cantorion, pennau‐cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos.