Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 9:10-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ac o'r offeiriaid; Jedaia, a Jehoiarib, a Jachin,

11. Asareia hefyd mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, tywysog tŷ Dduw;

12. Adaia hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Malceia; a Maasia, mab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer.

13. A'u brodyr, pennaf ar dŷ eu tadau, yn fil a saith gant a thrigain; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ Dduw.

14. Ac o'r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari,

15. Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab Asaff;

16. Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid.

17. Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a'u brodyr; Salum ydoedd bennaf;

18. A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi oedd borthorion.

19. Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a'r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a'u tadau hwynt ar lu yr Arglwydd, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn.

20. Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o'r blaen: a'r Arglwydd ydoedd gydag ef.

21. Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod.

22. Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthorion wrth y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt‐hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 9