Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 9:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A holl Israel a rifwyd wrth eu hachau, ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd.

2. Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a'r Nethiniaid.

3. Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda, ac o feibion Benjamin, ac o feibion Effraim, a Manasse:

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 9