8. Cenhedlodd hefyd Saharaim yng ngwlad Moab, gwedi eu gollwng hwynt ymaith: Husim a Baara oedd ei wragedd.
9. Ac efe a genhedlodd o Hodes ei wraig, Jobab, a Sibia, a Mesa, a Malcham,
10. A Jeus, a Sabia, a Mirma. Dyma ei feibion ef, pennau‐cenedl.
11. Ac o Husim efe a genhedlodd Ahitub ac Elpaal.
12. A meibion Elpaal oedd, Eber, a Misam, a Samed, yr hwn a adeiladodd Ono, a Lod a'i phentrefi.
13. Bereia hefyd, a Sema oedd bennau‐cenedl preswylwyr Ajalon; y rhai a ymlidiasant drigolion Gath.