37. A Mosa a genhedlodd Binea: Raffa oedd ei fab ef, Eleasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.
38. Ac i Asel y bu chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt, Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Y rhai hyn oll oedd feibion Asel.
39. A meibion Esec ei frawd ef oedd, Ulam ei gyntafâanedig ef, Jehus yr ail, ac Eliffelet y trydydd.
40. A meibion Ulam oedd ddynion cedyrn o nerth, yn saethyddion, ac yn aml eu meibion a'u hwyrion, sef cant a deg a deugain. Y rhai hyn oll oedd o feibion Benjamin.