Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 8:35-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

35. A meibion Micha; Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas.

36. Ac Ahas a genhedlodd Jehoada, a Jehoada a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri: a Simri a genhedlodd Mosa,

37. A Mosa a genhedlodd Binea: Raffa oedd ei fab ef, Eleasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.

38. Ac i Asel y bu chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt, Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Y rhai hyn oll oedd feibion Asel.

39. A meibion Esec ei frawd ef oedd, Ulam ei gyntaf‐anedig ef, Jehus yr ail, ac Eliffelet y trydydd.

40. A meibion Ulam oedd ddynion cedyrn o nerth, yn saethyddion, ac yn aml eu meibion a'u hwyrion, sef cant a deg a deugain. Y rhai hyn oll oedd o feibion Benjamin.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 8