Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 8:3-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A meibion Bela oedd, Adar, a Gera, ac Abihud,

4. Ac Abisua, a Naaman, ac Ahoa,

5. A Gera, a Seffuffan, a Huram.

6. Dyma hefyd feibion Ehud; dyma hwynt pennau‐cenedl preswylwyr Geba, a hwy a'u mudasant hwynt i Manahath:

7. Naaman hefyd, ac Ahïa, a Gera, efe a'u symudodd hwynt, ac a genhedlodd Ussa, ac Ahihud.

8. Cenhedlodd hefyd Saharaim yng ngwlad Moab, gwedi eu gollwng hwynt ymaith: Husim a Baara oedd ei wragedd.

9. Ac efe a genhedlodd o Hodes ei wraig, Jobab, a Sibia, a Mesa, a Malcham,

10. A Jeus, a Sabia, a Mirma. Dyma ei feibion ef, pennau‐cenedl.

11. Ac o Husim efe a genhedlodd Ahitub ac Elpaal.

12. A meibion Elpaal oedd, Eber, a Misam, a Samed, yr hwn a adeiladodd Ono, a Lod a'i phentrefi.

13. Bereia hefyd, a Sema oedd bennau‐cenedl preswylwyr Ajalon; y rhai a ymlidiasant drigolion Gath.

14. Ahïo hefyd, Sasac, a Jeremoth,

15. Sebadeia hefyd, ac Arad, ac Ader,

16. Michael hefyd, ac Ispa, a Joha, meibion Bereia;

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 8