28. Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl, sef penaethiaid ar eu cenedlaethau. Y rhai hyn a gyfaneddasant yn Jerwsalem.
29. Yn Gibeon hefyd y preswyliodd tad Gibeon, ac enw ei wraig ef oedd Maacha.
30. Ac Abdon ei fab cyntaf‐anedig ef, Sur hefyd, a Chis, a Baal, a Nadab,
31. Gedor hefyd, ac Ahïo, a Sacher.
32. Micloth hefyd a genhedlodd Simea: y rhai hyn hefyd, ar gyfer eu brodyr, a breswyliasant yn Jerwsalem gyda'u brodyr.
33. Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal.
34. A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha.
35. A meibion Micha; Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas.
36. Ac Ahas a genhedlodd Jehoada, a Jehoada a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri: a Simri a genhedlodd Mosa,