27. Jareseia hefyd, ac Eleia, a Sichri, meibion Jeroham.
28. Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl, sef penaethiaid ar eu cenedlaethau. Y rhai hyn a gyfaneddasant yn Jerwsalem.
29. Yn Gibeon hefyd y preswyliodd tad Gibeon, ac enw ei wraig ef oedd Maacha.
30. Ac Abdon ei fab cyntaf‐anedig ef, Sur hefyd, a Chis, a Baal, a Nadab,
31. Gedor hefyd, ac Ahïo, a Sacher.
32. Micloth hefyd a genhedlodd Simea: y rhai hyn hefyd, ar gyfer eu brodyr, a breswyliasant yn Jerwsalem gyda'u brodyr.
33. Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal.