1. Benjamin hefyd a genhedlodd Bela ei gyntaf‐anedig, Asbel yr ail, ac Ahara y trydydd,
2. Noha y pedwerydd, a Raffa y pumed.
3. A meibion Bela oedd, Adar, a Gera, ac Abihud,
4. Ac Abisua, a Naaman, ac Ahoa,
5. A Gera, a Seffuffan, a Huram.
6. Dyma hefyd feibion Ehud; dyma hwynt pennau‐cenedl preswylwyr Geba, a hwy a'u mudasant hwynt i Manahath:
7. Naaman hefyd, ac Ahïa, a Gera, efe a'u symudodd hwynt, ac a genhedlodd Ussa, ac Ahihud.
8. Cenhedlodd hefyd Saharaim yng ngwlad Moab, gwedi eu gollwng hwynt ymaith: Husim a Baara oedd ei wragedd.
9. Ac efe a genhedlodd o Hodes ei wraig, Jobab, a Sibia, a Mesa, a Malcham,
10. A Jeus, a Sabia, a Mirma. Dyma ei feibion ef, pennau‐cenedl.