Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 7:30-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Meibion Aser; Imna, ac Isua, ac Isuai, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt.

31. A meibion Bereia; Heber, a Malchiel, hwn yw tad Birsafith.

32. A Heber a genhedlodd Jafflet, a Somer, a Hotham, a Sua eu chwaer hwynt.

33. A meibion Jafflet; Pasach, a Bimhal, ac Asuath. Dyma feibion Jafflet.

34. A meibion Samer; Ahi, a Roga, Jehubba, ac Aram.

35. A meibion ei frawd ef Helem; Soffa, ac Imna, a Seles, ac Amal.

36. Meibion Soffa; Sua, a Harneffer, a Sual, a Beri, ac Imra,

37. Beser, a Hod, a Samma, a Silsa, ac Ithran, a Beera.

38. A meibion Jether; Jeffunne, Pispa hefyd, ac Ara.

39. A meibion Ula; Ara, a Haniel, a Resia.

40. Y rhai hyn oll oedd feibion Aser, pennau eu cenedl, yn ddewis wŷr o nerth, yn bennau‐capteiniaid. A'r cyfrif trwy eu hachau o wŷr i ryfel, oedd chwe mil ar hugain o wŷr.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 7