3. A meibion Ussi; Israhïa: a meibion Israhïa; Michael, ac Obadeia, a Joel, Isia, pump: yn benaethiaid oll.
4. A chyda hwynt yn eu cenedlaethau, ac yn ôl tŷ eu tadau, yr ydoedd byddinoedd milwyr i ryfel, un fil ar bymtheg ar hugain: canys llawer oedd ganddynt o wragedd a meibion.
5. A'u brodyr cedyrn o nerth, o holl deuluoedd Issachar, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn saith mil a phedwar ugain mil oll.
6. A meibion Benjamin oedd, Bela, a Becher, a Jediael, tri.
7. A meibion Bela; Esbon, ac Ussi, ac Ussiel, a Jerimoth, ac Iri; pump o bennau tŷ eu tadau, cedyrn o nerth, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn ddwy fil ar hugain a phedwar ar ddeg ar hugain.
8. A meibion Becher oedd, Semira, a Joas, ac Elieser, ac Elioenai, ac Omri, a Jerimoth, ac Abeia, ac Anathoth, ac Alemeth: y rhai hyn oll oedd feibion Becher.
9. A hwy a rifwyd wrth eu hachau, yn ôl eu cenedlaethau, yn bennau tŷ eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn ugain mil a dau cant.
10. A meibion Jediael; Bilhan: a meibion Bilhan; Jeus, a Benjamin, ac Ehud, a Chenaana, a Sethan, a Tharsis, ac Ahisahar.
11. Y rhai hyn oll oedd feibion Jediael, yn bennau eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn myned allan mewn llu i ryfel, yn ddwy fil ar bymtheg a deucant.
12. Suppim hefyd, a Huppim, meibion Ir; Husim, meibion Aher.
13. Meibion Nafftali; Jasiel, a Guni, a Geser, a Salum, meibion Bilha.
14. Meibion Manasse; Asriel, yr hwn a ymddûg ei wraig: (ond ei ordderchwraig o Syria a ymddûg Machir tad Gilead:
15. A Machir a gymerodd yn wraig chwaer Huppim a Suppim, ac enw eu chwaer hwynt oedd Maacha:) ac enw yr ail fab Salffaad: ac i Salffaad yr oedd merched.
16. A Maacha gwraig Machir a ymddûg fab, a hi a alwodd ei enw ef Peres, ac enw ei frawd ef Seres, a'i feibion ef oedd Ulam a Racem.
17. A meibion Ulam; Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse.
18. A Hammolecheth ei chwaer ef a ymddûg Isod, ac Abieser, a Mahala.
19. A meibion Semida oedd, Ahïan, a Sechem, a Lichi, ac Aniham.