Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 7:21-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A Sabad ei fab yntau, a Suthela ei fab yntau, ac Eser, ac Elead: a dynion Gath y rhai a anwyd yn y tir, a'u lladdodd hwynt, oherwydd dyfod ohonynt i waered i ddwyn eu hanifeiliaid hwynt.

22. Ac Effraim eu tad a alarodd ddyddiau lawer; a'i frodyr a ddaethant i'w gysuro ef.

23. A phan aeth efe at ei wraig, hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Bereia, am fod drygfyd yn ei dŷ ef.

24. (Seera hefyd oedd ei ferch ef, a hi a adeiladodd Beth‐horon yr isaf, a'r uchaf hefyd, ac Ussen‐sera.)

25. A Reffa oedd ei fab ef, a Reseff, a Thela ei fab yntau, a Thahan ei fab yntau,

26. Laadan ei fab yntau, Ammihud ei fab yntau, Elisama ei fab yntau,

27. Nun ei fab yntau, Josua ei fab yntau.

28. A'u meddiant a'u cyfanheddau oedd, Bethel a'i phentrefi, ac o du y dwyrain Naaran, ac o du y gorllewin Geser a'i phentrefi; a Sichem a'i phentrefi, hyd Gasa a'i phentrefi:

29. Ac ar derfynau meibion Manasse, Beth‐sean, a'i phentrefi, Taanach a'i phentrefi, Megido a'i phentrefi, Dor a'i phentrefi. Meibion Joseff mab Israel a drigasant yn y rhai hyn.

30. Meibion Aser; Imna, ac Isua, ac Isuai, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt.

31. A meibion Bereia; Heber, a Malchiel, hwn yw tad Birsafith.

32. A Heber a genhedlodd Jafflet, a Somer, a Hotham, a Sua eu chwaer hwynt.

33. A meibion Jafflet; Pasach, a Bimhal, ac Asuath. Dyma feibion Jafflet.

34. A meibion Samer; Ahi, a Roga, Jehubba, ac Aram.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 7