Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 7:17-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A meibion Ulam; Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse.

18. A Hammolecheth ei chwaer ef a ymddûg Isod, ac Abieser, a Mahala.

19. A meibion Semida oedd, Ahïan, a Sechem, a Lichi, ac Aniham.

20. A meibion Effraim; Suthela, a Bered ei fab ef, a Thahath ei fab yntau, ac Elada ei fab yntau, a Thahath ei fab yntau,

21. A Sabad ei fab yntau, a Suthela ei fab yntau, ac Eser, ac Elead: a dynion Gath y rhai a anwyd yn y tir, a'u lladdodd hwynt, oherwydd dyfod ohonynt i waered i ddwyn eu hanifeiliaid hwynt.

22. Ac Effraim eu tad a alarodd ddyddiau lawer; a'i frodyr a ddaethant i'w gysuro ef.

23. A phan aeth efe at ei wraig, hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Bereia, am fod drygfyd yn ei dŷ ef.

24. (Seera hefyd oedd ei ferch ef, a hi a adeiladodd Beth‐horon yr isaf, a'r uchaf hefyd, ac Ussen‐sera.)

25. A Reffa oedd ei fab ef, a Reseff, a Thela ei fab yntau, a Thahan ei fab yntau,

26. Laadan ei fab yntau, Ammihud ei fab yntau, Elisama ei fab yntau,

27. Nun ei fab yntau, Josua ei fab yntau.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 7