13. Meibion Nafftali; Jasiel, a Guni, a Geser, a Salum, meibion Bilha.
14. Meibion Manasse; Asriel, yr hwn a ymddûg ei wraig: (ond ei ordderchwraig o Syria a ymddûg Machir tad Gilead:
15. A Machir a gymerodd yn wraig chwaer Huppim a Suppim, ac enw eu chwaer hwynt oedd Maacha:) ac enw yr ail fab Salffaad: ac i Salffaad yr oedd merched.
16. A Maacha gwraig Machir a ymddûg fab, a hi a alwodd ei enw ef Peres, ac enw ei frawd ef Seres, a'i feibion ef oedd Ulam a Racem.
17. A meibion Ulam; Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse.
18. A Hammolecheth ei chwaer ef a ymddûg Isod, ac Abieser, a Mahala.
19. A meibion Semida oedd, Ahïan, a Sechem, a Lichi, ac Aniham.
20. A meibion Effraim; Suthela, a Bered ei fab ef, a Thahath ei fab yntau, ac Elada ei fab yntau, a Thahath ei fab yntau,
21. A Sabad ei fab yntau, a Suthela ei fab yntau, ac Eser, ac Elead: a dynion Gath y rhai a anwyd yn y tir, a'u lladdodd hwynt, oherwydd dyfod ohonynt i waered i ddwyn eu hanifeiliaid hwynt.
22. Ac Effraim eu tad a alarodd ddyddiau lawer; a'i frodyr a ddaethant i'w gysuro ef.